Nodau

  Disgyblion mewn castell

Lansiwyd y Fenter ym 1990, dan nawdd y Sefydliad Materion Cymreig. Y nod yw annog pobl ifanc mewn ysgolion yng Nghymru i ymddiddori mwy yn eu treftadaeth ac yng nghyfraniad eu teuluoedd a'u cymunedau i'r dreftadaeth honno. Mae'r Fenter yn cynnal cystadleuaeth flynyddol ar gyfer projectau treftadaeth yn ysgolion Cymru.

Gobeithiwn wella addysg pobl ifanc yng Nghymru, a gwella eu sgiliau darllen a sgrifennu, rhifyddeg a TGC drwy astudio hanes a diwylliant Cymru, i'w galluogi i werthfawrogi eu treftadaeth a helpu i'w diogelu.

Rydym yn annog disgyblion o bob oed a phob gallu i gymryd rhan, a'n nod yw darparu cyfleoedd i blant o bob oed a phob gallu i ddarganfod mwy am gyfoeth ac amrywiaeth eu treftadaeth, a rhannu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth gyda'u cymunedau eu hunain a'r byd ehangach.



Noddwyd y wefan gan Alcatel Networks a'i chynllunio'n wreddiol gan Philip Roberts © 2000.
Cynheiliaid presennol Imaginet Ltd 2002.