Y gystadleuaeth flynyddol

  Disgyblion gyda modelau papiermaché

Bob blwyddyn, bydd pwyllgor Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig yn gwahodd pob ysgol yng Nghymru i gynnig projectau treftadaeth mewn cystadleuaeth genedlaethol. Mae'r gair 'treftadaeth' yn cael ei ddehongli ar ei ystyr ehangaf, i gynnwys pobl a'u hanes cymdeithasol, crefydd, traddodiadau a diwylliant; byd gwaith, amaeth, diwydiant, cyllid, masnach, gwyddoniaeth, technoleg, celfyddydau a chwaraeon.

Gall y projectau fod yn rhan o'r gwaith cwricwlwm arferol a wneir fel rhan o'r amserlen, neu gallant adlewyrchu gwaith a wnaed gan yr ysgol i goffáu digwyddiad, person neu adeilad lleol.

Mae'r projectau'n gofyn am sgiliau ymchwil, casglu deunyddiau, dadansoddi a gwerthuso, a sgiliau cyfathrebu. Gellir eu cyflwyno fel arddangosfeydd, perfformiadau, adferiadau a mathau eraill o gyfraniadau i dreftadaeth, neu fel cofnodion printiedig neu electronig.

Anogir ysgolion i gynnwys eu cymunedau a phobl o wahanol genedlaethau yn eu projectau ac i ledaenu eu darganfyddiadau.

Mae pob ysgol sy'n cystadlu yn cael ymweliad gan feirniaid sy'n asesu'r project, gan gymryd i ystyriaeth y lefelau priodol o lythrennedd, rhifedd a sgiliau technoleg gwybodaeth.

Mewn Seremoni Wobrwyo, rhoddir gwobrau am y projectau gorau ym mhob categori: babanod, cynradd ac uwchradd. Cyflwynir y gwobrau i'r enillwyr gan y noddwyr a'u cyfrannodd. Cyflwynir Tariannau Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig (rhodd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru) am y cynigion cynradd ac uwchradd gorau oll. Cynhelir y seremoni mewn gwahanol leoliad yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri wedi noddi sefydlu Archif Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig. Mae hon yn cynnwys cofnodion y Fenter, rhestr o ysgolion a enillodd wobrau a detholiad o gynigion arobryn. Fe'i cedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Werin Cymru.



Noddwyd y wefan gan Alcatel Networks a'i chynllunio'n wreddiol gan Philip Roberts © 2000.
Cynheiliaid presennol Imaginet Ltd 2002.