Hanes y Fenter

  Y Tywysog Siarl gydo disgyblion

Lansiwyd y Fenter ym 1990, dan nawdd y Sefydliad Materion Cymreig yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd. Fe'i cofrestrwyd wedi hynny fel Ymddiriedolaeth Elusennol annibynnol (Rhif 1048155). O'r cychwyn cyntaf, y prif noddwyr oedd Syr Julian Hodge (Sefydliad Jane Hodge) a'r Western Mail. Yn ddiweddarach, daeth noddwyr mawr eraill i ymuno â nhw, yn cynnwys HSBC, Bwytai McDonald's Cyf., Awdurdod Datblygu Cymru, Corus, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Western Power Distribution, Lloyds TSB a Chymdeithas Adeiladu'r Principality.

Dros y blynyddoedd mae noddwyr eraill wedi cynnig grantiau a gwobrau hael ar gyfer ysgolion hefyd. Yn 2000, er enghraifft, noddodd Alcatel sefydlu gwefan Menter y Dreftadaeth Gymreig; rhoddodd Cronfa Treftadaeth y Loteri a Gŵyl y Mileniwm grant i alluogi'r Fenter i drefnu Arddangosfa Deithiol y Mileniwm yn cynnwys projectau ysgolion arobryn mewn canolfannau ledled Cymru. Yn yr un flwyddyn, ymaelododd y Fenter ag EUSTORY, rhwydwaith o wledydd yn Ewrop sy'n trefnu cystadlaethau treftadaeth/hanes. Gwahoddir cynrychiolwyr o'r ysgol uwchradd sy'n ennill y brif wobr yng Nghymru i fynychu cynhadledd o enillwyr gwobrau o wledydd eraill dan nawdd Sefydliad Körber yn Hamburg.

Neges o gefnogaeth gan Ei Uchelder Tywysog Cymru

"Credaf ei bod hi'n hollbwysig annog pobl ifanc yn yr ysgolion cynradd ac uwchradd i werthfawrogi treftadaeth Cymru, i helpu i'w diogelu ac i gyfrannu eu hunain tuag at greu'r math o dreftadaeth y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn gallu ei gwerthfawrogi a'i mwynhau.

Yr oeddwn wrth fy modd, felly, o glywed am Fenter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig, fydd yn herio pobl ifanc i ymgymryd â phrojectau treftadaeth sy'n creu dolennau cyswllt rhwng ysgolion, teuluoedd, cymunedau, mudiadau a diwydiannau lleol.

Nid crair o'r gorffennol yn unig yw treftadaeth. Mae'n esblygu ac mae'n golygu fod pobl yn parhau â'u gweithgareddau yn eu canolfannau addysg, eu gwaith a'u gweithle; ym meysydd y celfyddydau, adloniant a chwaraeon, ac wrth ymwneud â'u diddordebau personol. Gall ymwybyddiaeth o dreftadaeth greu ymwybyddiaeth o gymuned, ac i bobl ifanc sy'n edrych tua'r dyfodol, beth allai fod yn fwy addas na dealltwriaeth o'u gorffennol."

Ei Uchelder Tywysog Cymru



Noddwyd y wefan gan Alcatel Networks a'i chynllunio'n wreddiol gan Philip Roberts © 2000.
Cynheiliaid presennol Imaginet Ltd 2002.