Meini Prawf Beirniadu

  Disgyblion ym Mhorthladd Abergwaun

Mi fydd y prosiectau yn cael eu barnu yn yr ysgolion rhwng yr 19eg Ebrill a 7ed Mai 2010. Bydd un neu ddau feirniad, sef aelodau'r pwyllgor neu gynrychiolwyr y noddwyr, yn ymweld â'ch ysgol ar adeg gyfleus i bawb. Byddant yn gwerthfawrogi cyfle i siarad â'r disgyblion dan sylw yn ogystal â gweld eu gwaith.

Bydd y beirniaid yn dyfarnu marciau allan o gant am agweddau canlynol y project:

  • Cynnwys, yn cynnwys perthnasedd lleol penodol a chyd-destun (10 marc)

  • Proses, yn cynnwys ymwybyddiaeth gronolegol disgyblion (10 marc), eu gwybodaeth hanesyddol (10 marc), eu dealltwriaeth o ddehongliadau a chynrychioliadau (10 marc) a'u galluoedd ymholi wrth ddefnyddio ffynonellau (10 marc) - cyfanswm 40 marc

  • Gwerthuso a chyflwyniad, yn cynnwys dealltwriaeth disgyblion o'r project (20 marc) a'r ffordd maent wedi trefnu a chyfleu hyn yng nghyflwyniad y project (20 marc) - cyfanswm 40 marc

  • Argraff - y ffordd mae'r project wedi cael ei ledaenu a'r cyfraniad mae wedi ei wneud i ymwybyddiaeth o dreftadaeth (10 marc)


Noddwyd y wefan gan Alcatel Networks a'i chynllunio'n wreddiol gan Philip Roberts © 2000.
Cynheiliaid presennol Imaginet Ltd 2002.