|
Enillwyr Gwobrau 2009
YSGOL BABANOD Y MAERDY RHONDDA CYNON TAF Teitl: Sali’n Achub y Cwm
Cafodd y project yma ei ysbrydoli gan fisoedd cynnar rhynllyd 2009. Yn ystod yr oerfel, rhewodd y pibau haearn trwchus sy’n dod â dw^r i’r Maerdy yn llwyr, a holltodd metrau o’r pibellau. O ganlyniad, doedd dim dw^r yn y pentref a chaewyd yr ysgol. Creodd y newyddion benawdau yn y wasg leol a chafodd sylw ar y teledu. Ar ôl dychwelyd i’r ysgol, roedd y plant yn eiddgar i rannu eu straeon am y digwyddiad. Arweiniodd hynny at drafodaeth bellach am yr adeg y darganfuwyd twll yn yr argae uwchlaw’r pentref. Anogwyd y plant i ddarganfod beth ddigwyddodd a sut, mewn gwirionedd, yr achubodd ffermwr a’i gaseg, Sali, y pentref. Dechreusant eu hymchwiliadau drwy baratoi cwestiynau a holi trigolion lleol am y digwyddiad. Daeth y llyfrgellydd lleol â hen bapurau newydd i’r ysgol a chafodd y plant eu cyfareddu gan hanes y ffermwr a’i gaseg yn darganfod twll yn yr argae. Ymchwiliodd y plant i hen bapurau a’r rhyngrwyd ac ymweld â’r ardal o gwmpas y cronfeydd dw^r. Cymerodd yr ysgol gyfan ran mewn cyflwyniad dramatig o’u hymchwil i rieni, cynorthwywyr mewn oed a’r beirniaid. Cyfansoddodd cerddor lleol, Hawys James, gân am y digwyddiad a’i pherfformio gyda’r plant. Arddangosodd y plant eu darganfyddiadau mewn amryw o gyfryngau: modelau, straeon, arteffactau cysylltiedig a llyfrau project. Yr ysgol yw calon y gymuned, ac roedd ei phobl yn barod iawn i rannu’r hyn a wyddent am y digwyddiad. Rhannodd ymwelwyr â’r ysgol eu hatgofion, a bydd y gwaith yn cael ei arddangos yn y llyfrgell leol.
YSGOL GYNRADD CWRT RAWLIN (BABANOD) CAERFFILI Teitl: Astudiaeth o Hanes Ein Heglwys Leol
Mae Ysgol Cwrt Rawlin yn ysgol gymharol newydd ar gyrion Caerffili ac er bod castell anferth ac ysblennydd Caerffili i’w weld o’r ysgol, mae bron popeth o gwmpas yr ysgol wedi cael ei adeiladu’n ddiweddar iawn. Mae’r ysgol yn credu ei bod hi’n bwysig cysylltu’r disgyblion â gorffennol yr ardal. Eglwys Sant Martin yw eglwys y plwyf, a dyna lle y priodwyd rhai o’r rhieni a’r staff, felly byddai wedi bod yn gryn ganolbwynt i’r cylch. Er mwyn dysgu mwy am yr eglwys, ymwelodd disgyblion Blwyddyn 1 a 2 â hi; anfonwyd llythyron ac ebyst at rieni yn gofyn am wybodaeth ac ymwelodd disgyblion â’r llyfrgell yng Nghaerffili. Y nod oedd lleoli hanes yr eglwys yn y 19eg a’r 20fed ganrif yn erbyn cefnlen o ddigwyddiadau yng Nghaerffili. Lluniwyd hanes yr eglwys o erthyglau papur-newydd. Darganfu disgyblion y bu tân yn yr eglwys ac y cafodd llawer o gofnodion eu dinistrio, ynghyd â’r organ. Daethant o hyd i’r rhan a chwaraewyd gan wahanol deuluoedd bonheddig y cylch ym mywyd yr eglwys. O ddiddordeb mawr i’r disgyblion oedd ymweliad brenhinol y Brenin Edward VII a’r Frenhines Alexandra â Chaerffili ac i agor Doc y Frenhines Alexandra yng Nghaerdydd.
Ar sail yr holl wybodaeth yma, sgrifennwyd drama/sioe gerdd gan y staff a chafodd ei pherfformio gan ddisgyblion, mewn gwisgoedd, yn yr ysgol. Gwnaed arddangosiadau o’r toriadau papur-newydd, ffotograffau a ddarganfuwyd yn y llyfrgell, ffotograffau a anfonwyd at yr ysgol gan deuluoedd o briodasau a bedyddiadau yn Eglwys Sant Martin, a gwaith a wnaed gan y plant.
YSGOL GYNRADD Y PARC, CWMPARC RHONDDA CYNON TAF Teitl: Only Men Aloud
Aeth yr holl ysgol ati i ymchwilio i gerddoriaeth, yn enwedig bandiau, drwy holl hanes y Rhondda, o gyfnod y band ffeiffiau a drymiau cyntaf i’r dydd heddiw a band pres yr ysgol ei hun. Daeth y disgyblion yn ymwybodol o sut y tyfodd y Rhondda yn gwm diwydiannol o ganlyniad i dwf y boblogaeth, a’r angen am dai, addysg ac, wrth gwrs, y cyfleusterau ar gyfer diddordebau ysbrydol ac awr-hamdden. Felly y dechreuodd grwpiau cerddorol gael eu sefydlu. Aeth pob blwyddyn ati i ymchwilio i wahanol agweddau ar y project. Meithrin/Derbyn: caneuon Cymraeg a phypedau yn portreadu dyddiau cyn-glofaol y cwm. Bl. 1: Dylunio offerynnau cerddorol. Bl. 2: Hanes y bandiau jazz. Bl. 3: Dylunio Arfbeisiau ar gyfer y bandiau. Bl. 4/5: Llinell amser o ddigwyddiadau a chyflwyniad PowerPoint o fywyd fel person o oes Fictoria yn ne Cymru. Bl. 6: Tystiolaeth ffotograffig o Gwmparc o gwmpas yr adeg y daeth y bandiau pres i fodolaeth.
Roedd ansawdd y gwaith ymchwil yn rhagorol ac amlygai’r disgyblion ddealltwriaeth glir o’u canlyniadau. Roedd ansawdd ac amrywiaeth eu cyflwyniadau yn ddi-fai. Cafodd y beirniaid eu diddanu â rhaglen o adloniant cerddorol wedi ei berfformio gan bob grw^p blwyddyn. Cafwyd arddangosiadau o fandiau Jazz yn gorymdeithio, caneuon gan ddefnyddio pypedau, a gweithgareddau dramatig a sgetshys wedi eu sgrifennu a’u perfformio gan y disgyblion. Uchafbwynt y rhaglen oedd perfformiad gan fand pres yr ysgol. Rhoddodd y disgyblion berfformiad gwych, gan chwarae’n gywir a gyda mwynhad. Mae’r disgyblion yn ffodus iawn i gael y profiad o gael eu hyfforddi a’u harwain gan gerddor lleol 87 mlwydd oed sydd yn dod i’r ysgol yn ddyddiol, yn wirfoddol, i’w hyfforddi. Mae ei frwdfrydedd a’i anogaeth ef wedi rhoi cyfle bendigedig i’r disgyblion hyn i ddatblygu eu sgiliau cerddorol. Yn ystod eu hymchwil, gwahoddwyd y disgyblion i weithio ochr yn ochr â band Parc a Dâr er mwyn ymchwilio i’w darddiad. Bydd y cywaith yn cael ei gydosod a’i ddefnyddio i gynhyrchu llyfr a gyhoeddir ar ddiwedd y flwyddyn. Bwriedir gwahodd trigolion lleol i weld y perfformiad a’r arddangosiadau. Mae sylw yn y wasg leol wedi ennyn llawer iawn o ddiddordeb lleol yn y project.
YSGOL GYNRADD REOLEDIG WIRFODDOL TALACHARN, SIR GAERFYRDDIN Teitl: Astudiaeth o Hanes yr Ardal Leol yn y 18fed a’r 19eg Ganrif
Gwnaed y project gan 60 o ddisgyblion a gwblhaodd ymchwiliadau eang eu cwmpas a gwreiddiol i hanes y cylch. Roedd eu hastudiaeth o ffynonellau gwreiddiol, yn cynnwys cofnodion cyfrifiad, map y degwm a’i atodlenni dosrannu cysylltiedig, tystysgrifau priodas, ewyllysiau, mapiau stad, papurau newydd, coflenni troseddau a chosb, printiau, cofebau mynwent, ffotograffau a chyfarwyddebau masnach, yn eithriadol o dda. Roedd eu cyflwyniadau yn cynnwys arddangosiadau mur, llyfryn o sleidiau, a chyflwyniad PowerPoint hyderus o’u darganfyddiadau. Roeddynt yn cynnig eu dehongliadau eu hunain o’r dystiolaeth newydd, fel effaith Terfysgoedd Beca yn San Clêr. Byddai agweddau ar eu gwaith yn aml yn cael eu cysylltu â’r byd ehangach. Cynyddodd ymwybyddiaeth y disgyblion o hanes eu bro a’r byd ehangach yn sylweddol o ganlyniad i’r project hwn. Bydd eu gwaith yn cael ei gyflwyno i Gorfforaeth Talacharn i gael ei arddangos mewn Canolfan Dreftadaeth arfaethedig yn y pentref.
COLEG CYMUNED TONYPANDY RHONDDA CYNON TAF Teitl: ‘Llwybrau Adfer’
Datblygwyd y project a gyflwynwyd gan aelodau o’r Chweched Dosbarth yng Ngholeg Cymuned Tonypandy o Grant Gwreiddiau Ifanc sy’n rhan o Gronfa Treftadaeth y Loteri. Ei thema oedd terfysgoedd a fu yn Nhonypandy yn y flwyddyn 1910 ac mae cysylltiad clos rhyngddo â phwerdy’r pwll glo a oedd ar waith yno ar y pryd. Yn eu hymgais, cyflwynodd y myfyrwyr DVD, pecyn gwybodaeth ac arddangosiadau mawr o wybodaeth berthnasol. Mae’r DVD yn arbennig o drawiadol ac yn broffesiynol dros ben. Mae’n datblygu’r darn arbennig hwn o hanes gan ddefnyddio ffotograffau llonydd sy’n cyd- doddi’n glyfar i gyflwyno darlun symudol o ddigwyddiad dramatig o’r cyfnod. Mae’r sylwebaeth yn gweddu’n dda gyda chefndir cerddorol atgofus sy’n gosod yr olygfa yn effeithiol. Llwyddodd y myfyrwyr i ddenu nifer o bwysigion i ychwanegu eu sylwadau hwythau at y stori fyw yma: mae’r rhain yn cynnwys yr Arglwydd Kinnock, Chris Bryant AS, yr Athro Dai Smith a’r Athro Chris Williams. Roedd yn bleser cyfweld â’r myfyrwyr a oedd yn arddangos yn glir eu gwybodaeth a’u brwdfrydedd am y pwnc.
Gellid defnyddio’r DVD ei hunan yn llwyddiannus fel enghraifft wych o waith myfyrwyr a hefyd i hyrwyddo’r gwaith i adfer adeilad y pwerdy. Gwnaeth y cwbl argraff fawr ar Rhodri Morgan, Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol pan fynychodd achlysur lansio’r project yn gyhoeddus.
YSGOL BRYNHYFRYD SIR DDINBYCH Teitl: Project Ffilm Dehongliadol Crawford
Gwahoddai Project Ffilm Cymunedol W H Crawford ddisgyblion Ysgol Brynhyfryd i gyferbynnu bywyd rhai yn ei harddegau heddiw yn Rhuthun â bywydau pobl ifanc leol yn y 1940au a’r 50au. Defnyddiwyd deunydd ffilm sine gwreiddiol i ysgogi dyddiaduron fideo y disgyblion, a pharatowyd, cynhyrchwyd a recordiwyd rhaglen drafodaeth deledu. Project cyfryngau yw hwn a drefnwyd yn llwyr gan y disgyblion fel rhan o broject sgiliau allweddol ‘Gweithio gydag Eraill’ Lefel 3 ar gyfer cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Bydd y ffilm derfynol yn defnyddio darnau o’r ffilm sine wreiddiol, eu dyddiaduron fideo a’u rhaglen drafodaeth, a chaiff ei dangosiad cyntaf yn Rhuthun ar y 1af o Orffennaf 2009. Defnyddiodd disgyblion ddarnau ffilm gwreiddiol i rchwilio sut roedd rhai yn eu harddegau yn treulio’u hamser hamdden yn y 40au a’r 50au. Arweiniodd hyn at waith hanes llafar wrth gyfweld â thrigolion hy^n sy’n ymddangos yn y ffilmiau gwreiddiol ac yna defnyddiodd myfyrwyr eu dyddiaduron fideo i gymharu a chyferbynnu bywyd arddegol y trigain mlynedd diwethaf. Gwyddai’r disgyblion fod y ffilm wreiddiol yn portreadu ‘paradwys’ gefn-gwlad nad yw, o anghenraid, yn cyfateb i atgofion trigolion hy^n. Buont yn archwilio themâu fel gwaith, addysg, cludiant, prynwriaeth a diwylliant poblogaidd. Roedd atyniad goleuadau disglair Lerpwl yn cysylltu’r ddwy genhedlaeth. Gallasant nodi gwahaniaethau a thebygrwydd. Sefydlwyd Project Ffilm Cymunedol W H Crawford yn 2005 gyda chyfranogaeth ysgolion cynradd lleol ac Ysgol Brynhyfryd. Cafodd disgyblion gefnogaeth Cronfa Datblygiad Cynaliadwy AHNE Bryniau Clwyd, Cadwyn Clwyd ac Asiantaeth Ffilm Cymru. Cynhelir dangosiad byd-eang cyntaf y rhaglen gyflawn ar Orffennaf 1af a gwahoddwyd ysgolion lleol, trigolion lleol a chynrychiolwyr y gymuned iddo. Cafodd y datganiad i’r wasg a baratowyd gan y disgyblion ei ddefnyddio gan y wasg leol. Bu Radio Wales yn cyfweld â chyfranogwyr ac mae’r Sioe Gelf yn bwriadu ffilmio eitem saith-munud ar gyfer rhaglen yn y dyfodol.
YSGOL UWCH PEN-Y-BRYN ABERTAWE Teitl: Treftadaeth Grefyddol Cylch Treforys, Abertawe
Gwnaed y project gan 12 disgybl ag amrywiaeth o anableddau. Ymwelwyd â nifer o eglwysi a chapeli yng nghylch Treforys. Cafodd pobl enwog a digwyddiadau yn gysylltiedig â nhw eu hastudio hefyd. Defnyddiwyd amrywiaeth eang iawn o ffynonellau, yn cynnwys Beiblau teuluol, deunydd o’r cyfrifiad, ffotograffau, printiau a dillad. Amlygodd disgyblion ddealltwriaeth o’r rhesymau dros amrywiaeth o ddigwyddiadau, fel cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg, a chanlyniadau hynny. Roedd yr arddangosiad o waith yn gynhwysfawr ac o safon uchel iawn. Roedd sylwebaeth lafar gydag ef a bydd yn ganolbwynt bore agored, pan fydd aelodau o’r eglwysi yr ymwelwyd â nhw yn cael eu gwahodd i weld y gwaith. Caiff ei arddangos wedyn mewn dau gapel lleol. Cyfoethogodd y project yn fawr wybodaeth a dealltwriaeth y disgyblion, nid yn unig o’r dreftadaeth grefyddol leol, ond o dreftadaeth fyd-eang ehangach. Roedd cysylltiadau â’r cylch lleol yn un o nodweddion cryf y project.
YSGOL PORTFIELD SIR BENFRO Teitl: Naw Canmlwyddiant Hwlffordd
Defnyddiwyd dathlu naw canmlwyddiant Hwlffordd fel ysgogiad i’r project hanes ysgol- gyfan trawiadol iawn hwn. Roedd arddangosiad o’r canlyniadau, a ddefnyddiai lawer o gyfryngau gwahanol, yn llenwi holl ofod arddangos y stafelloedd dosbarth a’r coridorau. Defnyddiodd disgyblion y rhyngrwyd, y gwasanaeth llyfrgell sirol a swyddfeydd cofnodion i’w helpu i ddysgu am orffennol yr ardal. Cafwyd ymweliadau a oedd yn brofiadau cyfoethog â’r castell, gweddillion y fynachlog ac adeiladau Sioraidd a Fictoraidd y dref, gyda diddordeb neilltuol yn y capeli a’r eglwysi.
Ymwelodd y Maer lleol â’r ysgol i gael cyfweliad gan y disgyblion yngly^n â’i swyddogaeth a’r wisg swyddogol a’r arlwyddluniau roedd yn eu gwisgo. Defnyddiwyd amrywiaeth eang o gyfryngau gan y disgyblion i gyflwyno eu gwaith, e.e. defnyddio iaith arwyddion, modelau, celf, cyflwyniadau PowerPoint. Defnyddiwyd rhaglenni cyfrifiadur gyda modelau a grewyd gan y myfyrwyr i wneud ffilm animeiddiedig. Yn ei grynswth, o ran symbylu’r disgyblion ac ennyn eu diddordeb, gwnaeth y project ysgol-gyfan hwn argraff eithriadol. |